Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Gorffennaf 2015
Amser: 09.02 -
10.47
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/2927
|
Categori |
Enwau |
|
Aelodau’r Cynulliad: |
Darren Millar AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Jocelyn Davies AC Mike Hedges AC Ann Jones AC (yn lle Sandy Mewies AC) Julie Morgan AC Jenny Rathbone AC Aled Roberts AC |
|
Tystion: |
Simon Jones, Llywodraeth Cymru James Price, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Cymru |
|
Staff y Pwyllgor: |
Michael Kay (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) Joanest Varney-Jackson (Cynghorydd Cyfreithiol) Sophie Knott (Cynghorwr Arbenigol) Jeremy Morgan (Cynghorwr Arbenigol) Matthew Mortlock (Cynghorwr Arbenigol) Mike Usher (Cynghorwr Arbenigol) |
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Roedd Ann Jones yn dirprwyo ar ei rhan.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan James Price, Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru a Simon Jones, Cyfarwyddwr, Cyllid a Pherfformiad, Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol, Llywodraeth Cymru fel rhan o’i ymchwiliad i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Seilwaith Band Eang y Genhedlaeth Nesaf.
2.2 Cytunodd James Price i anfon nodyn ar:
· Restr o leoliadau lle mae problemau o ran mynediad wedi bod yn anodd i Openreach
· Beth y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl a gaiff ei ddarparu fel rhan o’r gyllideb farchnata o £1.7m, a sut y caiff ei defnyddio ar sail ddaearyddol.
· Hawliau datblygu a ganiateir
· Cyflwyno Ffeibr yn Ôl y Galw
· Lleoliadau ble y bydd contractau ychwanegol yn ofynnol yn dilyn y cyhoeddiad a ddisgwylir ar brosiect ‘Mewnlenwi Cyfnod 2’
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
4.1 Cytunwyd ar y cynnig.
5.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a ddaeth i law.
6.1 Nododd yr Aelodau’r llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a chytunodd y dylai’r Cadeirydd gopïo’r ohebiaeth ddiweddar ag Owen Evans, y Dirprwy Ysgrifennydd Parhaol sydd newydd ei benodi, sydd â chyfrifoldeb dros hyn, yn gofyn am ei ystyriaethau ynghylch y cwestiynau a ofynnwyd. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y mater hwn eto ym mis Medi.
7.1 Nodwyd y papur gan yr Aelodau. Gofynnwyd i’r Clercod, fodd bynnag, ail-drefnu’r cyfarfod a awgrymwyd y dylid ei gynnal ddydd Llun 28 Medi i ddydd Llun arall, oherwydd bod nifer o’r Aelodau i ffwrdd.
7.2 Cytunodd yr Aelodau â’r rhestr o gyrff a awgrymwyd ar gyfer craffu ar gyfrifon, a chytunodd i baratoi papur etifeddiaeth hefyd.
7.3 Nododd yr Aelodau gais y Cadeirydd am sesiwn ymadawol gyda’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol, o gofio’r ymadawiadau diweddar o Lywodraeth Cymru. Dywedwyd wrth y Cadeirydd nad oedd sesiwn ymadawol gyda’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol a oedd yn gadael yn briodol oherwydd bod amgylchiadau eu hymadawiad yn wahanol iawn i ymadawiadau Cyfarwyddwyr Cyffredinol blaenorol.